Beth mae’r Sefydliad Ffiseg am ei weld
Drwy’r ymgyrch Torrwch y Ffiniau, mae’r Sefydliad Ffiseg am gynorthwyo pobl ifanc i newid y byd a chyflawni eu potensial drwy astudio ffiseg.
Fodd bynnag, mae rhai pobl ifanc yn llai tebygol o wneud hynny nag eraill. Mae’r ymgyrch wedi nodi pum grŵp penodol nad ydynt yn cael eu cynrychioli neu’u gwasanaethu yn ddigonol ar hyn o bryd yn y gymuned ffiseg – mae’r bobl ifanc hynny’n llai tebygol o astudio ffiseg ac yn fwy tebygol o wynebu amgylchedd gelyniaethus pan fyddant yn gwneud hynny. Dyma’r grwpiau dan sylw:
- Merched
- Pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig
- Pobl ifanc anabl
- Pobl ifanc LHDT+
- Pobl ifanc o dras Du Caribïaidd
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae’r Sefydliad Ffiseg yn galw ar lywodraethau’r DU ac Iwerddon i:
- Adolygu safonau proffesiynol ar gyfer athrawon er mwyn nodi disgwyliad y bydd athrawon yn mynd i’r afael ag anghyfiawnder yn eu hymarfer proffesiynol ac yn cymryd camau gweithredol i gael gwared ag unrhyw homoffobia, unrhyw anffafriaeth ar sail rhyw, hil neu ddosbarth cymdeithasol, ac unrhyw ffafriaeth tuag at bobl nad ydynt yn anabl, yn eu gwaith eu hunain ac yn eu hysgolion.
- Sicrhau bod athrawon yn cael eu hyfforddi i addysgu mewn modd cynhwysol a mynd i’r afael ag anghyfiawnder, fel bod modd iddynt gyrraedd y safonau cadarn hyn. Dylai hynny ddigwydd yn ystod yr addysg gychwynnol i athrawon y byddant yn ei chael, ac yn ystod eu dysgu a’u datblygiad proffesiynol parhaus.
- Rhoi cyfarwyddyd i’r sawl sy’n gyfrifol am arolygu ysgolion roi mwy o bwyslais ar bwysigrwydd addysgu mewn modd cynhwysol ac ar ymdrechion ysgolion i fynd i’r afael ag anghyfiawnder.
- Awdurdodi meithrinfeydd ac ysgolion i ddatblygu cynlluniau gweithredu ysgol gyfan ar gyfer tegwch:
- sy’n seiliedig ar gasglu data a thystiolaeth yn barhaus, gan gynnwys gwybodaeth am ddewisiadau’r myfyrwyr.
- sy’n hybu tegwch a chydraddoldeb i bobl ifanc mewn grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.
Ym mhob meithrinfa ac ysgol, mae’r Sefydliad Ffiseg am weld:
- Bod pob aelod o staff yn herio rhagfarn a stereoteipio.
- Bod addysgwyr, rhieni a myfyrwyr yn datblygu ac yn gweithredu cynlluniau gweithredu ysgol gyfan ar gyfer tegwch, sy’n darparu amgylchedd cynhwysol ac sy’n hybu tegwch a chydraddoldeb i bobl ifanc mewn grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.
- Bod y sawl sy’n gyfrifol am lywodraethu ysgolion yn chwarae rhan weithredol o safbwynt sicrhau bod tegwch a chydraddoldeb yn cael eu hybu yn eu hysgolion ac o safbwynt mynd i’r afael ag unrhyw anghydraddoldeb, a fydd yn cynnwys penodi aelod sy’n gyfrifol yn benodol am gydraddoldeb.
- Bod athrawon yn addysgu ffiseg a gwyddoniaeth mewn modd cynhwysol, sy’n hybu darlun cadarnhaol a chyfoes o ffiseg ac sy’n portreadu ffisegwyr o bob math o gefndiroedd, gan gynnwys grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli a’u gwasanaethu’n ddigonol.
- Bod pob person ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr yn cael cyngor o safon am yrfaoedd, sy’n cynnwys opsiynau o ran gyrfaoedd ym maes ffiseg ac sy’n hyrwyddo cyfleoedd i astudio ffiseg o 16 oed ymlaen.
- Bod mwy o bobl ifanc o grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol yn elwa o ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, megis mewn clybiau gwyddoniaeth neu STEM.
Byddem yn ddiolchgar pe baech yn llofnodi'r maniffesto heddiw er mwyn i ni allu dangos i'n gwleidyddion bod llawer o bobl o blaid gwella tegwch a chynhwysiant ar draws y sector addysg.
Gallwch ei lofnodi fel athro/athrawes unigol gan ddefnyddio'r ffurflen isod.
Byddem yn hoffi pe bai cynifer o athrawon ag sy'n bosibl yn dangos eu cefnogaeth ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn dangos bod ysgolion, meithrinfeydd a cholegau ar y cyd yn cefnogi'r maniffesto.
Er mwyn llofnodi'r maniffesto ar ran eich sefydliad yn swyddogol, bydd gofyn i bennaeth eich sefydliad, rheolwr neu aelod o'r uwch dîm arwain sydd â chyfrifoldeb lenwi'r ffurflen isod.
Felly, os ydych yn gallu llofnodi'r maniffesto ar ran eich meithrinfa neu'ch ysgol, dylech nodi hynny ar y ffurflen isod. Fel arall, anfonwch y ffurflen at yr unigolyn perthnasol a all wneud hynny.
I weld yr ysgolion sy'n cefnogi'r maniffesto ar gyfer newid, cliciwch yma.
Telerau ac amodau:
Ni fyddwn yn datgelu eich enw, eich cyfeiriad ebost na’ch rôl yn yr ysgol. Os ydych yn llofnodi i gefnogi’r maniffesto hwn ar ran eich sefydliad, rydych yn cytuno y bydd enw eich meithrinfa, eich ysgol neu’ch coleg yn cael ei restru’n gyhoeddus ar wefan y Sefydliad Ffiseg, ac y bydd yn cael ei ychwanegu at ein rhestr bostio o gefnogwyr er mwyn i ni gysylltu â chi i rannu gwybodaeth am hynt y maniffesto a’r ymgyrch Limit Less ac am unrhyw ddigwyddiadau neu gyfleoedd sydd ar ddod neu unrhyw adnoddau a gaiff eu datblygu gan yr ymgyrch.
Fodd bynnag, os na fyddwch yn cytuno i hynny, ni fyddwn yn gallu cysylltu mwyach â’ch meithrinfa neu’ch ysgol ynghylch y maniffesto, yr ymgyrch nac unrhyw gyfleoedd y gallai fod modd i ni eu darparu.